Amdanom Ni - About Us
Amdanom ni About us
Anelu at Ragoriaeth - Aiming for Excellence
Ysgol Gynradd Gymraeg aml-ddiwylliannol, uchelgeisiol a theg i blant rhwng 3 ac 11 oed yw Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ardal Lecwydd o Gaerdydd, Prif Ddinas Cymru. Mae Uned Feithrin i blant 3/4 oed yn rhan o'r ysgol ynghyd â Chanolfan Adnoddau Arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth, Yr Hafan. Yn 2020, sefydlwyd Cylch Meithrin a gofal cofleidiol ar safle’r ysgol.
Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Pwll Coch ym 1996. Ym Medi 1999 symudwyd i adeilad newydd a gorffennwyd estyniad i’r ysgol yn 2006 ar gyfer yr Ysgol Uchaf.
Mae dalgylch yr ysgol yn eang ac yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd deheuol a gorllewinol dinas Caerdydd, yn enwedig ardaloedd Lecwydd, Glan yr Afon a rhannau o Dreganna a Phontcanna.
Mae tua 500 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys 64 o blant yn y dosbarth meithrin. Mae 18 o ddosbarthiadau un oed.
Daw’r disgyblion o ardaloedd cymysg, rhai ardaloedd o fantais economaidd, eraill yn ardaloedd dan anfantais a’r gweddill yn ardaloedd heb fantais nac anfantais arbennig.
Mae tua 20% o ddisgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg lle mae o leiaf un o’r rhieni yn siarad Cymraeg, tua 5% o gartrefi lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg a daw tua 80% o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Hefyd mae 23% yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig. Ar hyn o bryd mae tua 12% o’r disgyblion yn cael prydau bwyd am ddim; mae’r ffigwr o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol. Mae 20% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’r ffigwr hwn o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol.
Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf gan Estyn, Arolygwyr Ei Mawrhydi Dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn 2018.



Ysgol Gymraeg Pwll Coch is a multi-cultural, equity driven and ambitious Welsh Medium Primary School for pupils aged 3 - 11 years old located in the Leckwith area of Cardiff, Wales’ Capital City. Our school has a nursery unit for pupils aged 3/4 along with a Specialist Resource Base for pupils with Complex Learning Needs, Yr Hafan. In 2020, a new Cylch Meithrin Welsh Medium nursery and wrap around provision was established onsite.
Ysgol Gymraeg Pwll Coch was established in 1996. In September 1999 the school moved to a new building and an extension was completed in 2006 for the upper school.
The school’s catchment area is wide and varied and includes the southern and western parts of the city of Cardiff, especially the areas of Leckwith, Riverside and parts of Canton and Pontcanna.
Currently, there are around 500 pupils in the school, including 64 children in the nursery class. There are 18 single age classes. Pupils come from mixed areas, some are economically advantaged, others economically disadvantaged with the remainder neither particularly advantaged nor disadvantaged.
Approximately 20% of pupils come from Welsh-speaking homes where at least one parent speaks Welsh, around 5% from homes where both parents speak Welsh and approximately 80% come from non-Welsh-speaking homes. Also 23% come from a minority ethnic background. Currently around 12% of the pupils receive free school meals; this figure is below national and local averages. At this time, 20% of pupils are on the Additional Learning Needs (ALN) register, and this figure is below national and local averages.
The school was last inspected by Her Majesty's Inspectorate of Education & Training in Wales, Estyn in 2018.

Ein campws hyfryd.
Our wonderful campus.














Blas o weithgareddau'r ysgol.
A taste of our activities.







































