Anghenion Dysgu Ychwanegol - Additional Learning Needs
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Additional Learning Needs
Mae Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ysgol gynhwysol lle mae’r holl staff wedi ymrwymo i lwyddiant pob disgybl.
Anelwn at gynnig addysg gynhwysol o safon i bob disgybl yn ogystal â chyfleoedd addysgol cyfartal i bob unigolyn.
Bydd gan nifer o ddisgyblion, ar ryw gyfnod yn eu gyrfaoedd ysgol, anghenion dysgu ychwanegol o ryw ddisgrifiad. Mae'r ysgol yn ymdrechu i adnabod y gofynion yma, a lle bo angen, yn llunio rhaglen berthnasol ar gyfer amgylchiadau arbennig y plentyn.
Mae aelod o’r staff wedi ei benodi i fonitro ac i asesu anghenion dysgu ychwanegol yn yr ysgol. Mae'r asesu yn gymorth i adnabod y disgyblion mwy abl a thalentog yn ogystal â disgyblion sydd yn cael anghenion dysgu.
Os oes anghenion dysgu ychwanegol gan ddisgybl, byddwn yn trafod hyn gyda’r rhieni/gwarcheidwaid. Yna bydd yr ysgol o bosibl yn darparu rhaglen i’r disgybl a all fod yn gyfnodau o sylw unigol, neu grŵp.
Mae copi o’r Polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gael o swyddfa’r ysgol. Mae gan yr ysgol berthnasoedd arbennig o dda rhwng yr asiantaethau allanol megis y Seicolegydd Addysgol, Gwasanaethau Cymdeithasol ac ati.
I gael gwybodaeth neu gyngor pellach, siaradwch ag athro/athrawes (d)dosbarth eich plentyn neu cysylltwch â’r Pennaeth ADY a Thegwch, Mrs Becca Avci.
Ysgol Gymraeg Pwll Coch is an inclusive school where all staff are committed to the success of every pupil.
The school aims to offer a high standard of inclusive education and equality of opportunity to all individuals.
Many pupils, at some stage in their school careers, will have additional learning needs of some description. The school will endeavour to identify these needs, and if appropriate, will formulate a relevant programme for each pupils’s particular circumstances. Assessments will aid in recognising the needs of able and talented pupils as well as those having additional learning needs.
If a child has additional learning needs, then the extent of the child’s need is discussed with the parents/guardians. The school may then produce a programme for the pupil that can lead to individual or group teaching.
A copy of the school’s Additional Learning Needs Policy is available from the school office.
An exceptionally able child will be identified using the same process. We have a positive working relationships with external agencies such as the Educational Psychologist, Social Services etc.
For further information or advice, please speak to your child’s class teacher or contact our Head of ALN & Equity, Mrs Becca Avci.
Rhaglen Trawsnewid ADY
yng Nghymru
ALN Transformation Programme
in Wales