Menu
School Logo
Language
Search

Gweledigaeth a Gwerthoedd - Vision & Values

Ein Gweledigaeth    
 

Ein Nod

Ein nod yw cynnal cymuned ysgol ofalgar a chynhwysol sy’n cynnig profiadau addysgol cyfoethog, gan ddathlu ein Cymreictod ac amrywiaeth ein diwylliannau

 

Fel ysgol byddwn yn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo yng nghamau nesaf eu bywydau.   

 

Cefnogwn bob disgybl i ddatblygu yn:

 

ddysgwr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

gyfrannwr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

ddinesydd egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i chwarae rhan lawn yn ein prifddinas, yng Nghymru a’r byd;

unigolyn iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelod gwerthfawr o gymdeithas.

 

Gweledigaeth

Mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn ymrywmo i wireddu’r weledigaeth isod:

 

  • Cynnal cymuned ysgol ofalgar, gefnogol a chynhwysol lle mae hapusrwydd a lles bob unigolyn yn flaenoriaeth ar bob adeg.
  • Ymdrechu i ffurfio perthnasoedd cryf gyda’n holl staff, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau y deilliannau gorau posibl i bob un.
  • Anelu at ddarparu cwricwlwm ysgogol a chyffrous gyda phwyslais ar brofiadau addysgol cyfoethog.
  • Darparu cyfleoedd i aelodau o gymuned yr ysgol, a’r gymuned ehangach, i ennill profiadau sydd yn datblygu balchder yn eu Cymreictod a rhuglder yn yr iaith Gymraeg.
  • Annog dyheadau, hyrwyddo uchelgais a chydnabod ein bod i gyd yn ddysgwyr gydol-oes.
  • Hyrwyddo parch tuag at yr amgylchfyd a chyd-ddyn a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol o fewn ein dinas

Our Vision

Our Aim

Our aim is to maintain a caring and inclusive school community that offers rich educational experiences, celebrating our Welshness and the diversity of our cultures.

 

As a school we will ensure that all pupils have full access to the experiences, knowledge and skills to succeed in the next stages of their lives.

 

We support all pupils to become:

 

• ambitious, capable learners who are willing to learn throughout their lives

• enterprising, creative contributors, willing to play a full part in life and work

• principled, knowledgeable citizens who are willing to play a full part in our capital city, in Wales and the world

• healthy, confident individuals whoa re willing to live a fulfilled life as a valued member of society.

 

Our Vision

All members of the school community are committed to realising the vision below:

 

• Maintain a caring, supportive and inclusive school community where the happiness and wellbeing of each individual is a priority at all times.

• Strive to form strong relationships with all our staff, pupils, parents, governors and the wider community to ensure the best possible outcomes for all.

• Aim to provide a stimulating and exciting curriculum with an emphasis on rich educational experiences.

• Provide opportunities for members of the school community, and the wider community, to gain experiences that develop pride in their Welshness and fluency in the Welsh language.

• Encourage aspirations, promote ambition and recognise that we are all lifelong learners.

• Promote respect for the environment and each other and celebrate the cultural diversity within our city.

"Maent yn hynod effeithiol wrth osod a hybu gweledigaeth yr ysgol, sy’n canolbwyntio ar barch, gwella lles a meithrin perthnasoedd gwaith o fewn un teulu mawr ac anelu at ragoriaeth trwy wella safonau disgyblion."

Adroddiad Arolwg Estyn, 2018

 

They are extremely effective in setting and promoting the school’s vision, which focuses on respect, improving wellbeing and fostering working relationships within one large family, and aiming for excellence by improving pupils’ standards. 

Estyn Inspection Report, 2018.

Top