Skip to content ↓
Eng

Amdanom Ni

Teulu mawr ym ni i gyd!

Ysgol Gynradd Gymraeg aml-ddiwylliannol, uchelgeisiol a theg i blant rhwng 3 ac 11 oed yw Ysgol Gymraeg Pwll Coch yn ardal Lecwydd o Gaerdydd, Prif Ddinas Cymru. Mae Uned Feithrin i blant 3/4 oed yn rhan o'r ysgol ynghyd â Chanolfannau Adnoddau Arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth ac Anghenion Lles. Yn 2020, sefydlwyd Cylch Meithrin sy'n cynnig gofal cofleidiol ar safle’r ysgol.

Sefydlwyd Ysgol Gymraeg Pwll Coch ym 1996. Ym Medi 1999 symudwyd i adeilad newydd a gorffennwyd estyniad i’r ysgol yn 2006 ar gyfer yr Ysgol Uchaf.

Mae dalgylch yr ysgol yn eang ac yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd deheuol a gorllewinol dinas Caerdydd, yn enwedig ardaloedd Lecwydd, Glan yr Afon a rhannau o Dreganna a Phontcanna.

Mae tua 300 o ddisgyblion yn yr ysgol, gan gynnwys 64 o blant yn y dosbarth meithrin. Mae 11 o ddosbarthiadau prif ffrwd.

Mae tua 20% o ddisgyblion yn dod o gartrefi Cymraeg lle mae o leiaf un o’r rhieni yn siarad Cymraeg, tua 5% o gartrefi lle mae'r ddau riant yn siarad Cymraeg a daw tua 80% o’r disgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Hefyd mae 23% yn dod o gefndir lleiafrifol ethnig. Ar hyn o bryd mae tua 16% o’r disgyblion yn cael prydau bwyd am ddim; mae’r ffigwr o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol. Mae 20% ar y gofrestr anghenion dysgu ychwanegol (ADY), ac mae’r ffigwr hwn o dan y cyfartaleddau cenedlaethol a lleol.

Arolygwyd yr ysgol ddiwethaf gan Estyn, Arolygwyr Ei Mawrhydi Dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru yn 2018.