Skip to content ↓
Eng

Clwb Brecwast

Mae’r ysgol yn cynnig brecwast yn rhad ac am ddim i holl ddisgyblion yr ysgol gan gynnwys y Dosbarth Meithrin bore a'r Cylch Meithrin. Ariannir y Clwb brecwast gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Clwb Brecwast yn agor yn neuadd yr ysgol am 8.05y.b. ac yn derbyn plant hyd nes 8.30y.b. Mae disgyblion yn cael eu goruchwylio hyd nes bod yr ysgol yn dechrau am 8:50y.b. 

Fel arfer, ceir dewis o’r bwydydd canlynol:

  • Dewis o rawnfwydydd (heb siwgr)

  • Darn o dost bara cyflawn.

  • Ffrwythau e.e. melon.

  • Llaeth hanner sgim i yfed neu i osod dros y grawnfwyd.

  • Sudd ffrwyth neu ddŵr.

Rhannwn ffurflenni cofrestru yn Nhymor yr Haf ar gyfer y flwyddyn academaidd ganlynol. Os hoffech gofrestru eich plentyn ar gyfer y Clwb Brecwast yn ystod y flwyddyn academaidd, cysylltwch â Swyddfa'r Ysgol a byddwn yn hapus iawn i helpu.