Skip to content ↓
Eng

Croeso gan y Pennaeth

Annwyl Rieni, Gwarcheidwaid a Ffrindiau,

Braint ac anrhydedd yw eich croesawu chi i wefan newydd Ysgol Gymraeg Pwll Coch.

Ein nod yw cynnal cymuned ysgol ofalgar a chynhwysol sy’n cynnig profiadau addysgol cyfoethog, gan ddathlu ein Cymreictod ac amrywiaeth ein diwylliannau.

Fel ysgol byddwn yn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo yng nghamau nesaf eu bywydau.

Disgwyliwn y safon orau posibl gan ein disgyblion ac fe wnawn ein gorau i roi pob cyfle ac arweiniad iddynt hwy. Mae cyfoeth ac ehangder y gweithgareddau allgyrsiol yn nodwedd bwysig o fywyd a diwylliant yr ysgol hon. Anelwn at sicrhau llwyddiannau academaidd, diwylliannol, cerddorol a chwaraeon gan ddathlu llwyddiant pob disgybl, beth bynnag o’i ddawn a’i ddiddordeb.

Un o gryfderau ein hysgol yw ei hethos Gymraeg a theg, ei chymuned ofalgar, agored a hapus lle mae'r disgyblion yn teimlo’n gartrefol ac yn mwynhau eu haddysg.

Anelwn at wneud dysgu yn brofiad cyffrous a phleserus a hynny yn bennaf trwy ddefnyddio dulliau dysgu diddorol a gweithredol yn ein gwersi.

Mae pob disgybl yn bwysig fel unigolyn, a phob unigolyn yn bwysig fel aelod o gymuned Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Yr egwyddor hon o barchu’r unigolyn a gosod anghenion yr unigolyn yn y canol sydd wrth wraidd ethos, gwerthoedd a llwyddiant ein hysgol.

Mae ein disgyblion yn falch o’u hysgol, yn falch o’u Cymreictod a’u dwyieithrwydd ac yn medru cyfrannu yn gadarnhaol at gymdeithas aml-ieithog ac aml-ddiwylliannol Caerdydd, Cymru a’r Byd.

Mae addysgu plant yn gyfrifoldeb mawr ac yn fraint aruthrol. Os ydych yn rhiant i ddisgybl sydd eisoes yn yr ysgol, diolch i chi am ymddiried ynom gyda'r swydd. Os ydych yn ystyried danfon eich plentyn i Ysgol Gymraeg Pwll Coch neu os hoffech wybod mwy, cysylltwch â ni.

Yr wyf yn hynod o falch i fod yn Bennaeth ar yr ysgol cyfrwng Cymraeg llwyddiannus ac uchelgeisiol hon, a byddaf wrth fy modd yn eich tywys o gwmpas yr ysgol i chi weld dros eich hun beth allwn gynnig i'ch plentyn.

Dymuniadau gorau,

Dewi Rees
Pennaeth