Skip to content ↓
Eng

Cynllun Strydoedd Ysgol

Mae'r Cynllun Strydoedd Ysgol ar waith ar Rodfa Lawrenny ers mis Medi 2023.

Beth yw Stryd Ysgol?

Strydoedd (neu barthau) cyfyngedig mewn ardaloedd o amgylch ysgolion prysur y gellir ond eu defnyddio gan ddeiliaid trwydded, cerddwyr a beicwyr am ran o’r diwrnod, fel arfer yn ystod oriau prysuraf yr ysgol, yw Strydoedd Ysgol. Mae hyn yn digwydd cyn ac ar ôl amseroedd yr ysgol, yn ystod tymor yr ysgol.

  • Rhoddir Strydoedd Ysgol ar waith gan ddefnyddio proses gyfreithiol o'r enw Gorchymyn Rheoli Traffig (GRhT). Cyfyngiadau a osodir ar y Briffordd sy’n cyfeirio, rheoli a gwahardd symudiadau defnyddwyr y ffordd yw’r rhain.
  • Defnyddir arwyddion i ddangos bod cyfyngiadau Stryd Ysgol ar waith.   Mae goleuadau ar arwyddion yn ymddangos yn ystod cyfnodau cyfyngedig.
  • Gall cerbydau sydd eisoes yn ardal y 'Stryd Ysgol' yn ystod yr amseroedd cyfyngedig adael ar unrhyw adeg; cyfyngiadau mynediad yw’r rhain yn unig.
  • Caiff camerâu gorfodi eu defnyddio i fonitro cerbydau sy’n teithio ar y stryd yn ystod yr amseroedd hyn a gallai troseddwyr gael dirwy (Hysbysiad Tâl Cosb - HTC) o £70.

Yr amseroedd ar gyfer y Cynllun Stryd Ysgol ar Rodfa Lawrenny yw:

8:15yb – 9:15yb

2:30yp – 3:45yp

Bws Cerdded

Rydyn ni'n falch iawn o'r ffaith ein bod yn darparu Bws Cerdded i holl ddisgyblion yr ysgol, sydd yn gadael maes parcio Lidl am 8:40yb bob bore. Mae cytundeb rhwng y Sir a Stadiwm Dinas Caerdydd yn ei le sydd yn caniatáu i rieni a gwarchodwyr i barcio ym maes parcio y stadiwm yn rhad ac am ddim.