Skip to content ↓
Eng

ELSA

Beth yw ELSA?

Mae ELSA yn fenter a ddatblygwyd ac a gefnogir gan seicolegwyr addysg. Mae'n cydnabod bod plant yn dysgu'n well ac yn hapusach yn yr ysgol os eir i'r afael â'u hanghenion emosiynol hefyd.

Cyflwynir y rhan fwyaf o waith ELSA yn unigol, ond weithiau mae gwaith grŵp bach yn fwy priodol, yn enwedig ym meysydd sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Mae sesiynau yn hwyl, rydym yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau megis: gemau, chwarae rôl gyda phypedau neu weithgareddau therapiwtig fel ymwybyddiaeth ofalgar neu gelf a chrefft. Cynhelir sesiynau ELSA yn ein 'ystafell ELSA' ein hunain sy'n darparu man tawel a diogel i'r plentyn deimlo ei fod yn cael ei gefnogi a'i feithrin.

Yn ELSA, ein nod yw darparu cymorth ar gyfer ystod eang o anghenion emosiynol:

 

Adnabod Emosiynau

Pryder

Hunan-barch

Sgiliau Cymdeithasol

Cyfeillgarwch

Dicter

Colled a Phrofedigaeth

 

Sut mae ELSA yn gweithio?

Mae plant fel arfer yn cael eu cyfeirio ar gyfer cymorth ELSA gan eu hathro dosbarth neu'r CADY. Mae athrawon yn trafod y ffurflenni cyfeirio ac yn nodi a blaenoriaethu pa blant sydd angen cymorth. Gyda nodau’r rhaglen mewn golwg rydym wedyn yn cynllunio sesiynau cymorth i gefnogi'r disgybl i ddatblygu sgiliau newydd a strategaethau ymdopi sy’n caniatáu iddynt reoli gofynion cymdeithasol ac emosiynol yn fwy effeithiol. Mae'r ELSA yn gynorthwy-ydd addysgu arbenigol gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda phlant mewn grŵp bach neu 1:1.

Anelwn i sefydlu perthynas gynnes, barchus gyda’r disgybl a darparu gofod myfyrio lle gallant rannu eu meddyliau a’u teimladau yn onest. Mae’r ysgol yn cefnogi rhieni gydag atgyfeiriadau ar gyfer cwnsela arbenigol, therapi chwarae neu i CAMHS. Mae'r Seicolegydd Addysg sy'n gweithio gyda'n hysgol yn cynnal sesiynau goruchwylio rheolaidd gyda'n ELSA, a gall gynnig cyngor ar addasrwydd neu natur ymwneud ELSA mewn achosion cymhleth.