Skip to content ↓
Eng

Ffrindiau Pwll Coch

Croeso i dudalen Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Pwll Coch – i ffrindiau hen a newydd.


Mae holl rieni, gwarcheidwaid ac athrawon plant Ysgol Pwll Coch yn aelodau o’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon (“Ffrindiau Pwll Coch”).

Rôl y Cyfeillion yw trefnu digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian ar gyfer yr ysgol er mwyn cefnogi addysg y disgyblion. Rydym hefyd yn angerddol am greu cymuned yn ysgol Pwll Coch ac yn ogystal a chodi arian rydym yn awyddus i ddathlu a chefnogi ein teuluoedd amrywiol ac aml-ddiwylliannol.

Mae “Ffrindiau Pwll Coch” yn cael ei redeg gan y rhieni, ac mae nhw, ynghyd a’r athrawon (a hyd yn oed y prifathro) yn cwrdd yn rheolaidd yn ystod y tymor. Etholir y pwyllgor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol .

Ein cadeirydd presenol yw Non Stevens a’r is-gadeirydd yw Luned Jones.

 Mae cynrychiolydd o blith rhieni pob dosbarth yn cael ei ethol hefyd ac yn gweithredu fel cyswllt rhwng y rhieni a’r pwyllgor.

Rydym yn croesawu aelodau newydd bob amser ac yn fwy na bodlon gwrando ar syniadau newydd i godi arian.

Am fwy o wybodaeth am ein digwyddiadau codi-arian cadwch lygaid ar Dojo, tudalennau whattsapp dosbarth eich plentyn neu dilynwch ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol.

 Facebook – Ffrindiau Pwll Coch

Instagram-ffrindiauysgolpwllcoch

 

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi codi arian tuag at y Clwb Cwtsh, Llyfrgell newydd a phrofiadau celfyddydol!

 

Cefnogwch Ffrindiau Pwll Coch! Diolch.