Skip to content ↓
Eng

Gweledigaeth a Gwerthoedd

Ein Nod

Ein nod yw cynnal cymuned ysgol ofalgar a chynhwysol sy’n cynnig profiadau addysgol cyfoethog, gan ddathlu ein Cymreictod ac amrywiaeth ein diwylliannau.

Fel ysgol byddwn yn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad cyflawn at y profiadau, yr wybodaeth a’r sgiliau i lwyddo yng nghamau nesaf eu bywydau.

Cefnogwn bob disgybl i ddatblygu yn:

  • ddysgwr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • gyfrannwr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
  • ddinesydd egwyddorol, gwybodus, sy’n barod i chwarae rhan lawn yn ein prifddinas, yng Nghymru a’r byd;
  • unigolyn iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelod gwerthfawr o gymdeithas.

Gweledigaeth

Mae pob aelod o gymuned yr ysgol yn ymrywmo i wireddu’r weledigaeth isod:

  • Cynnal cymuned ysgol ofalgar, gefnogol a chynhwysol lle mae hapusrwydd a lles bob unigolyn yn flaenoriaeth ar bob adeg.
  • Ymdrechu i ffurfio perthnasoedd cryf gyda’n holl staff, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a’r gymuned ehangach er mwyn sicrhau y deilliannau gorau posibl i bob un.
  • Anelu at ddarparu cwricwlwm ysgogol a chyffrous gyda phwyslais ar brofiadau addysgol cyfoethog.
  • Darparu cyfleoedd i aelodau o gymuned yr ysgol, a’r gymuned ehangach, i ennill profiadau sydd yn datblygu balchder yn eu Cymreictod a rhuglder yn yr iaith Gymraeg.
  • Annog dyheadau, hyrwyddo uchelgais a chydnabod ein bod i gyd yn ddysgwyr gydol-oes.
  • Hyrwyddo parch tuag at yr amgylchfyd a chyd-ddyn a dathlu amrywiaeth ddiwylliannol o fewn ein dinas.

"Maent yn hynod effeithiol wrth osod a hybu gweledigaeth yr ysgol, sy’n canolbwyntio ar barch, gwella lles a meithrin perthnasoedd gwaith o fewn un teulu mawr ac anelu at ragoriaeth trwy wella safonau disgyblion."

Adroddiad Arolwg Estyn, 2018