Skip to content ↓
Eng

Manteision Addysg Gymraeg

Rydym yn angerddol am roi’r cyfle i bob plentyn chwarae, dysgu, tyfu a ffynnu trwy’r Gymraeg. Credwn fod gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i addysg Gymraeg. Mae nifer fawr o rieni yn dweud fod dewis addysg Gymraeg i’w plentyn wedi profi yn brofiad gwerth chweil i’r plentyn ac i’r teulu yn gyffredinol.

Addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod eich plentyn yn datblygu sgiliau dwyieithog. Mae gallu siarad Cymraeg yn fanteisiol wrth geisio am swyddi yng Nghymru. Yn aml, mae bod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â ieithoedd arall, yn cael ei ystyried yn sgil ychwanegol. Mae nifer o swyddi yn nodi fod gallu’r Gymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol. Mae mwy o alw heddiw nag y bu erioed am sgiliau dwyieithog mewn amrywiaeth o swyddi e.e. iechyd, addysg, hamdden, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus.

Trwy roi’r Gymraeg i blant bach Cymru rydym yn gobeithio uno cenedl a datblygu cymuned Gymraeg aml-ddiwylliannol agored a llawn bywyd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.eindinaseinhiaith.cymru/croeso/