Skip to content ↓
Eng

Therapi Chwarae

Mae therapi chwarae yn fath o seicotherapi sy’n defnyddio chwarae i helpu plant i ddelio â materion emosiynol ac iechyd meddwl. Trwy ddefnyddio chwarae a thechnegau creadigol, gall plant archwilio eu teimladau a’u meddyliau a dechrau prosesu a deall teimladau dryslyd a digwyddiadau sy’n peri gofid iddynt. Mae therapi chwarae yn addas i blant 4-12 oed.

Mae chwarae’n hanfodol i ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol, gwybyddol, corfforol, creadigol ac iaith pob plentyn. Mae’n helpu i wneud dysgu’n gadarn i bob plentyn a pherson ifanc gan gynnwys y rhai y gallai cyfathrebu llafar fod yn anodd iddyn nhw.

Mae therapi chwarae yn helpu plant mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae plant yn derbyn cefnogaeth emosiynol a gallant ddysgu deall mwy am eu teimladau a’u meddyliau eu hunain. Weithiau gallant ail-greu neu chwarae allan brofiadau bywyd trawmatig neu anodd i wneud synnwyr o’u gorffennol ac ymdopi’n well â’r dyfodol.

Gweithiwn yn agos gyda'n therapydd chwarae, Becca, sydd yn gyda ni ym Mhwll Coch bob dydd Iau. Mae wedi cofrestru gyda Chymdeithas Therapi Chwarae Prydain (BAPT) ac rydym ni’n dilyn eu canllawiau yn llym.